Pwyllgor y Coliseum yn edrych i'r dyfodol

Wrth i bwyllgor i achub y Coliseum ym Mhorthmadog drafod cynllun busnes i gyflwyno i'r perchnogion, mae aelod wedi dweud wrth Heart fodnhw'n obeithiol...ond fod yna lot o waith caled ar y ffordd.

Wrth i bwyllgor i achub y Coliseum ym Mhorthmadog drafod cynllun busnes i gyflwyno i'r perchnogion ar ddiwedd mis Ebrill, mae aelod wedi dweud wrth Heart fodnhw'n obeithiol...ond fod yna lot o waith caled ar y ffordd.

Mae yna ofnau ni fydd y sinema yn ail-agor ei ddrysau eto oherwydd diffyg cwsmeriaid a'r ffaith fod gwaith adnewyddu angen cael ei wneud ar adeilad sydd wedi bod yno ers y tridegau.

Mae uchafbwyntiau'r sinema wedi cynnwys cynnal dangosiad gyntaf y ffilm "First Knight" yn 1995, ar ôl i gynhyrchwyr ffilmio golygfeydd gyda sêr megis Richard Gere a Sean Connery gerllaw.

Yn ôl Aled Jones o'r pwyllgor mae yna angen ar gyfer gweddnewidiad enfawr....

" Os sa’ fo'n foethus dwi'n teimlo sa’ fwy o bobl yn ei ddefnyddio fo...mae yna lot o bobl yn dod i Borthmadog dros yr haf felly mae'n rhaid talu i mewn ar hynny. "

Os da chi eisiau darganfod rhagor am yr ymgyrch gyrrwch e-bost i admin@savethecoliseum.com