Heddlu'n amddiffyn ail-strwythuro

Mae newidiadau i Blismona yng Ngogledd Cymru wedi dod i rym heddiw (Dydd Mercher Mai 4ydd).

Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn dweud wrth Heart ni fydd newidiadau i blismona yn y rhanbarth yn effeithio eu gallu i gyrraedd galwadau.

Daw'r newidiadau oherwydd bod y llu yn gorfod arbed miliynau o bunnau o ganlyniad i doriadau yn eu cyllid gan Lywodraeth San Steffan.

Mae'r newidiadau yn cynnwys creu naw canolfan , gan gynnwys un yng Nghaernarfon, i ddelio gyda galwadau brys.

Ar ben hynny mi fydd yna Prif Arolygydd ar gyfer bob Sir, ac mi fydd y gwaith yn cael ei rhannu rhwng swyddogion ymatebol, swyddogion sydd yn ymchwilio troseddau a swyddogion plismona cymunedol.

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard , yn mynnu ni fydd hyn yn niweidio'r gwasanaeth mae'r cyhoedd yn derbyn:

" Be sy'n bwysig ydi fod yr Heddlu'n gallu ymateb pan mae'r galwad yn dŵad felly da ni wedi strwythuro yn fwy hyblyg...Be fydda ni'n gwneud ydi symud y swyddogion ma ar draws pan mae'r galwadau yn dod i mewn."