Llafur i Lywodraethu Cymru

Mae arweinydd Llafur yng Nghymru wedi dweud wrth Heart mi fydd o'n ffurfio llywodraeth wythnos yma.

Daw hyn ar ôl i Lafur ennill tri deg o seddi yn etholiadau'r Cynulliad 2011, sydd yn golygu fod nhw wedi methu allan ar fwyafrif clir o un sedd.

Ond mae Carwyn Jones yn dweud mi fydd ei blaid yn cyd-weithio gyda'r pleidiau erill:

" Mae'n ddyletswydd i ni weithio gyda ein gilydd unwaith eto, er mwyn dangos fod yr ymddiried sydd wedi cael ei rhoi yn ni gan bobl Cymru yn rhywbeth mae nhw'n gallu adeiladu arno ar gyfer y dyfodol. "

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi gaddo sicrhau fydd Llafur yn gwarchod Cymru rhag toriadau Llywodraeth San Steffan.

Ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nghymru yn dweud fydd y pleidiau'n y Cynulliad yn gorfod cyd-weithio i sicrhau sefydlogrwydd

Ond mae'r Ceidwadwyr yn gaddo defnyddio eu llais yn y Cynulliad i sicrhau ni fydd Llafur yn gwneud cangymeriadau.