Llofrudd April yn y carchar am oes

30 May 2013, 16:38 | Updated: 30 May 2013, 17:48

Yn dilyn achos o 21 o ddiwrnodau mae'r rheithgor wedi penderfynnu fod Mark Bridger wedi lladd yr eneth fach o'r Canolbarth.

Pan cafodd y dyfarniad ei ddarllen y prynhawn ' ma (Dydd Iau Mai 30) 'roedd rhienni April, Coral a Paul, yn ddistaw ac yn sefyll ochr yn ochr.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug fe ddywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith Williams fod Bridger yn ddyn celwyddog ac yn bidoffeil.

Tu allan i'r llys fe ddywedodd mam April, Coral, fod hi a'i gwr Paul yn falch fod Bridger wedi ei ganfod yn euog o lofruddio'u merch.

Yn ogytsal a hynny 'roedd Coral yn dweud eu bod yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth bobl o amgylch y byd wedi i'w merch ddiflannu.

'Roedd Bridger wedi gwadu'r holl gyhuddiadau oedd o'n ei wynebu, gan ddweud fod o wedi lladd yr eneth bum mlwydd oed mewn damwain car ym Machynlleth Fis Hydref y llynnedd.

Ond wedi iddyn nhw gynnal trafodaethau am bedair awr, fe benderfynodd y rheithgor ei fod o'n euog o gipio a llofruddio'r eneth bum mlwydd oed, yn ogystal a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared a'i chorff.


Nid yw corff April heb ei ddarganod, ond mae'r Prif Arolygydd Robin Mason o Heddlu Dyfed Powys yn dweud wrth Heart eu bod yn byw mewn gobaith

'Fel mae amser yn pasio efallai fod y cyfleon o ffeindio hi nawr yn mynd yn llai o hyd, ond os deith wybodaeth arall edrychwn ar y mater eto.'

Yn ogystal a hynny mae Prif Erlynwr Cymru, Ed Beltrami, yn dweud fod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn croesawu'r dyfarniad ac yn gobeithio ei fod o gymorth i'r teulu.