Parc yn ail-agor yn dilyn marwolaeth

Mae parc antur wedi ail-agor ar ôl i fachgen un ar ddeg mlwydd oed syrthio i'w farwolaeth yno.

Bu farw'r bachgen un ar ddeg mlwydd oed yn Ysbyty Gwynedd ar Ddydd Sul y Pasg ar ôl iddo syrthio oddeutu tri deg troedfedd oddi ar atyniad yng Nghelli Gyffwrdd ger y Felinheli.

Roedd y canolfan ar gau ar Ddydd Llun y Pasg er mwyn parch i deulu'r bachgen o ardal Blackpool...Mae ymchwiliad ar y cyd wedi cael ei lansio gan Heddlu'r Gogledd a'r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch.