Streic i effeithio gwasanaethau lleol.

29 November 2011, 17:35 | Updated: 29 November 2011, 17:37

Fe fydd nifer o ysgolion Ynys Môn a Gwynedd ar gau Dydd Mercher Tachwedd 30ain oherwydd y streic gan aelodau sydd yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i ddiwygio'r system pensiynau.

Yn ogystal â hynny ni fydd y mwyafrif o lawdriniaethau di-argyfwng yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru oherwydd bod y streic yn effeithio'r gwasanaeth iechyd.

Fe fydd y streic gan weithwyr yn y sector cyhoeddus yn effeithio ar lawer o wasanaethau'r cyngor ar Ynys Môn a Gwynedd hefyd.

Ar Ynys Môn dim ond gwastraff cyhoeddus (Biniau du, gwyrdd a brown) fydd yn cael ei gasglu, ac fe fydd y canolfannau ailgylchu ym Mhenhesgyn a Gwalchmai ar gau. 

Yng Ngwynedd, mae'r Cyngor yn annog trigolion i adael eu gwastraff tu allan i'w cartrefi oherwydd eu bod yn gobeithio casglu'r sbwriel....Mae'n bosib na fydd yn cael ei gasglu.Os felly, caiff ei gasglu ar y diwrnod casglu nesaf.

Yn ogystal â hynny fe fydd canolfannau ailgylchu'r sir ar gau.

Er fod Prifysgol Bangor ar agor, mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gysylltu gyda'u hysgolion unigol oherwydd fe fydd y streic yn effeithio rhai o'r darlithoedd.

Dyma'r rhestr o'r ysgolion sydd ar gau:

YNYS MON

Ysgol Kingsland

Ysgol Niwbwrch

Ysgol Dwyran

Ysgol Llangaffo

Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch 

Ysgol Gyfun Llangefni

Ysgol Uwchradd Caergybi

Ysgol David Hughes

Ysgol Parch Thomas Ellis, Caergybi 

Ysgol Llanbedrgoch

Ysgol Llanerchymedd

Ysgol y Santes Fair, Caergybi

Ysgol y Parc, Caergybi

Ysgol y TwynYsgol y Bont, Llangefni

Ysgol Llangoed

Ysgol Pen y sarn

Ysgol Gynradd Amlwch

Uned Blynyddoedd Cynnar, Llangefni 

Ysgol MoelfreYsgol y Ffridd, Gwalchmai

Ysgol Morswyn, Caergybi

Ysgol Henblas, Llangristiolus

Ysgol Corn Hir, Llangefni

Ysgol Llanfairpwll

Ysgol Llaingoch, Caergybi

Ysgol Talwrn

Ysgol Llanfechell

Ysgol Bodorgan

Ysgol Esceifiog, Gaerwen

Ysgol Brynsiencyn

Ysgol Llanddona

Ysgol Rhosneigr

Ysgol Garreglefn

Ysgol Rhosybol

Ysgol Uwchradd Bodedern

Ysgol Biwmares

Ysgol Rhoscolyn

Ysgol y Fali

Ysgol Goronwy Owen, Benllech 

Ysgol Gynradd Bodedern

Ysgol Bodffordd

Ysgol Llandegfan

Ysgol Parc y Bont 

Ysgol Pentraeth 

Ysgol Borth

Ysgol Llanfawr 

Ysgol y Graig 

Ysgol Bryngwran

Ysgolion sydd ar gau'n rhannol

Ysgol Cemaes (Blynyddoedd 5 a 6 ar agor)

Ysgol Pencarnisiog (Un dosbarth ar agor)

GWYNEDD
Ysgol Ardudwy, Harlech

Ysgol Babanod Abercaseg, Bethesda

Ysgol Baladeulyn, Nantlle

Ysgol Bodfeurig, Sling

Ysgol Bontnewydd

Ysgol Borthygest

Ysgol Botwnnog

Ysgol Bro Lleu, Penygroes

Ysgol Brynaerau, Pontllyfni

Ysgol Brynrefail, Llanrug

Ysgol Cwm y Glo

Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes

Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda

Ysgol Eifionydd, Porthmadog

Ysgol Felinwnda

Ysgol Foelgron, Mynytho

Ysgol Friars Uchaf, Bangor

Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

Ysgol Llanbedrog

Ysgol Llanllechid

Ysgol Llidiardau, Rhoshirwaun

Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog 

Ysgol Pendalar, Caernarfon

Ysgol Penybryn, Bethesda

Ysgol Pont y Gôf, Botwnnog

Ysgol Rhosgadfan

Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon

Ysgol TalsarnauYsgol Tregarth

Ysgol Tryfan, Bangor

Ysgol Tudweiliog

Ysgol Y Faenol, Bangor

Ysgol Y Felinheli