TEULU DOCTOR YN TALU TEYRNGED IDDO

14 July 2011, 11:06 | Updated: 14 July 2011, 11:28

Wedi i ddyn lleol farw mewn damwain ffordd ym Mhentre Ucha ger Pwllheli ddydd Mawrth, mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi mai Dr Gwion Rhys oedd ei enw.

Roedd Gwion yn feddyg teulu yn Nefyn a Llanaelhaearn. Roedd yn briod a chanddo bedwar o blant. Mae ei deulu wedi talu iddo:

"Yn enedigol o bentre Bow Street yng Nheredigion, fe ddaeth Gwion yn feddyg teulu yn Nefyn a Llanaelhaearn ddeng mlynedd yn ol. Roedd pobl yn bwysig iawn iddo, ac ers y drasiedi ddydd Mawrth
 ry'n ni wedi clywed maint gwerthawrogiad y gymuned o'i  waith.

Ond yn bennaf, dyn ei deulu oedd Gwion Rhys. Yn wr i Manon, yn dad i Owain, Luned, Ifan a Deio, yn frawd i Garmon ac yn fab i Enid ac Alun Jones. Ei deulu oedd ei flaenoriaeth
 bob amser.

Roedd gwaith llaw, yn enwedig gwaith coed, yn ddileit arbenning ganddo. Ei ddiddordeb mawr arall oedd cyfrifaduron. Fe drosglwyddodd y diddordeb hwn i'w waith gan ddatblygu systemau cyfrifiadurol oedd o gymorth iddo i dynnu sylw at afiechydon mewn cleifion. Lledaenwyd y system hon ymhlith meddygfeydd ar draws Cymru. 

Mae ei farwolaeth yn golled enfawr i'w deulu a hefyd i'w gymodgaeth y gwnaeth pob ymdrech i fod yn rhan ganolog ohoni. Roedd yn wr addfwyn a pharod ei gymwynas a welai ddaioni
 bob amser yn ei gydnabod."