Teyrngedau i Reolwr Cymru, Gary Speed

Mae byd y bel gron yn un yn eu galar, wedi marwolaeth rheolwr poblogaidd tîm pel-droed Cymru, Gary Speed.

Cafodd y gwr 42 mlwydd oed, oedd yn dad i ddau o blant, ei ddarganfod wedi ei grogi yn ei gartref ger Caer fore dydd Sul, ddiwrnod wedi iddo ymddangos ar deledu byw, a sgwrsio gyda mawrion byd pel-droed, sydd oll wedi datgan eu sioc a'u hanghrediniaeth.

Mae nifer wedi talu teyrnged i gyn-chwaraewr Leeds Unedig, Everton a Newcastle Unedig, yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a David Cameron. 

Mae Ryan Giggs, fu'n chwarae i Gymru gyda Gary Speed, wedi dweud ei fod wedi ei frawychu gan y farwolaeth.

Dywedodd chwaraewr canol cae Maenceinion Unedig:

'Rydw i'n ddigalon. Gary Speed oedd un o'r dynion mwyaf caredig ym myd pel-droed, ac rwy'n ei chysidro'n fraint i'w alw'n ffrind.
All geiriau ddim disgrifio mor drist ydw i wrth glywed y newyddion erchyll hwn. Heb os, rwy'n meddwl am ei deulu yn yr amser hynod ddigalon hwn.'

Roedd Alan Shearer, fu'n chwarae gyda Speed yn Newcastle, yn gyfeillgar iawn gyda'r Cymro, fe ddywedodd fod Gary:

'yn berson amryddawn, bywiog, llawn hwyl, ac yn ddyn teuluol arbennig. Rwy'n falch o'i gyfri'n ffrind, a fe fyddaf yn gweld ei eisiau yn eithriadol.'

Fe gadarnhaodd Heddlu Swydd Caer fod corff Gary Speed wedi ei ddarganfod yn ei gartref yn Huntington, ger Caer, ac nad oedden nhw'n trin yr achos fel un amheus.

Ganwyd Speed yn Mancot yn Sir y Fflint yn 1969, gan chwarae i fechgyn ysgol Sir y Fflint tra'r oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pen-ar-Lag. Yna, Swydd Efrog oedd ei gartref, pan ddaeth yr alwad gan Leeds, i ddechrau gyrfa ddisglair yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn gapten ar ei wlad.

Cafodd Speed ei anrhydeddu gydag MBE llynedd, am ei wasanaeth i bel-droed. Mewn amser byr, roedd o wedi ail-gynnau ffydd yn nhîm pel-droed Cymru, wedi iddo gymryd y llyw fel rheolwr ym mis Rhagfyr, 2010. Fe welodd bedair gem fuddugol yn olynnol yn ddiweddar, gan godi'r tim o safle 117 i 45 yng nghynghrair ryngwladol FIFA.