Ymchwilio achos tan trasig

12 June 2011, 10:24 | Updated: 12 June 2011, 10:31

Mae diffoddwyr tan yn parhau i geisio darganfod achos tan yn y Bermo oedd yn gyfrifol am farwolaeth tad a mab.

Fe gafodd diffoddwyr tan eu galw i barc Sunny Sands yn ystod oriau man bore Dydd Sadwrn Mehefin 11fed, a bu farw tad pum deg wyth oed, a'i fab dau ddeg chwech oed.

Mae'r eneth dyflwydd yn ddifrifol wael yn Ysbyty plant Alder Hey ac mae gwraig hanner cant oed yn yr Ysbyty hefyd....Daw'r teulu, sydd heb gael eu henwi hyd yn hyn, o ardal y Fflint...