Bryn a Bing yn Mynd am Rhif 1 y Dolig!

Mae'r canwr o Bant Glas - Bryn Terfel - yn mynd i geisio cael can i rhif un siart y Nadolig!

Drwy ddefnyddio dulliau technolegol fydd llais Bryn yn cael ei roi gyda llais Bing Crosby - fu farw dros dri deg o flynyddoedd yn ol - i ganu deuawd o 'White Christmas'.

Dyma'r tro cyntaf i ddeuawd o'r gan gynnwys Bing Crosby ers bron i 70 o flynyddoedd.

Mae 'White Chirstmas' wedi ei ganu gan sawl un o enwogion mwya'r byd cerddorol - fel Elvis Presley a Michael Buble!  A dyna'r gan sydd wedi gwerthu fwya' o gopiau yn y byd!

Bydd 'White Christmas' yn ymddangos ar albym newydd Bryn Terfel - "Carol's and Christmas Songs".

Fe ddywedodd Bryn Terfel:

"Mae'n anrhydedd i fod yn rhannu trac gyda un o'r hoff gantorion y byd a chael canu un o'r caneuon orau erioed."

Ychwanegodd:  "Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn ei mwynhau."