Cynllun tacsis diogel

Mae cynllun newydd sy’n anelu at sicrhau fod gan aelodau’r cyhoedd fynediad hawdd a sydyn i gwmnïau tacsi trwyddedig lleol wedi cael ei lansio yng Nghaernarfon.

Mae’r cynllun Cab Safe a fydd bellach yn weithredol ar draws Gwynedd a Môn yn golygu anfon neges destun syml gyda’r gair “CAB” at 83222. Yna, byddant yn derbyn neges destun yn ôl gyda rhifau tri o’r cwmnïau tacsi trwyddedig agosaf.

Nod y cynllun yw annog aelodau’r cyhoedd i osgoi gyrwyr tacsi ffug. Mae posteri, cardiau a matiau cwrw yn cael eu dosbarthu i rannu’r neges ac i annog y defnydd o gerbydau trwyddedig.

Nodiadau:

Y prif bethau i’w cofio wrth ddal tacsi adref yw:

-       Dim ond cerbydau Hacni y cewch eu stopio ar y stryd. Dylai’r cerbydau yma ddangos plât glas ar flaen ac ar gefn y car.

-       Rhaid trefnu tacsi preifat o flaen llaw, mae’r car yn arddangos plât melyn ar y blaen a’r cefn. Mae llun siâp hanner lleuad ar ddrws y cerbyd.

-       Rhaid i bob gyrrwr trwyddedig fod â cherdyn adnabod y Cyngor yn eu meddiant.
-       Gwiriwch y manylion hyn cyn mynd i mewn i’r car. Nid yw gyrrwr sydd heb drwydded wedi ei archwilio gan y Cyngor ac mae’n bosib na fydd ganddynt yr yswiriant cywir.

Os ydych yn bryderus am dacsis sydd heb eu trwyddedu yn gweithredu yng Ngwynedd, cysylltwch â thîm Trwyddedu Cyngor Gwynedd ar 01286 679923, Safonau Masnach yng Nghyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752857 neu cysylltwch â’r heddlu ar 0845 607 1001/1002.

 ******************************************************************************************************

The Cab Safe scheme which will now be operational across Gwynedd and Anglesey involves sending a simple text message with the word “CAB” to 83222. They will then receive a text back with the numbers for three of the nearest licensed taxi companies.

The scheme aims to encourage residents to avoid bogus taxi drivers. Posters, cards and beermats are being distributed to spread the word and encourage the use of licensed vehicles.Notes:

The main things to bear in mind when taking a taxi ride home, are:

-       Only Hackney carriage cabs can be hailed in the street. These cars should carry a blue plate on the front and back.

-       Private hire cabs should be booked beforehand and display a yellow plate on the front and back. There is a half moon shaped symbol on the car doors.

-       All licensed drivers should have the Council driver’s identity badge.
-       Check these details before getting into a taxi. An unlicensed car and driver have not vetted by the Council and may not be insured.

If you have any concerns about illegitimate taxis operating in Gwynedd, contact Gwynedd Council’s Licensing Enforcement team on 01286 679923, Trading Standards at the Isle of Anglesey County Council on 01248 752857 or contact the police on 0845 607 1001/1002.