Cyrff Trawsfynydd
Yn dilyn darganfyddiad corff dynes a dau fachgen mewn ty yn Nhrawfynydd mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y bechgyn wedi'u mygu.
Cafodd yr heddlu eu galw gan aelodau'r teulu ychydig ar ôl 8 o'r gloch ar Rhagfyr 19eg.
Fe dorron nhw i mewn i'r ty yn Stryd Capel.
Daethpwyd o hyd i gyrff Izaak Stevens, 2 a'i frawd Phillip Stevens, 5 yn eu stafell wely. Gafwyd hyd i gorff eu mam Melanie Stevens yn crogi.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad a'u marwolaethau.
Diwrnod Du i Drawsfynydd
Yn ol y Cynghorydd lleol, Thomas Griffith Ellis mae'r newyddion wedi dod fel sioc i gymuned Trawsfynydd lle roedd Ms Stevens a'i phlant yn wynebau cyfarwydd.
"Colli teulu ifanc fel hyn - mae teimladau pobl yn reit gry'. Mae'n fore du iawn yn Nhrawsfynydd - yn enwedig o flaen y Nadolig fel hyn."