Damwain Awyren Dinas Dinlle :Teyrnged
22 May 2013, 14:17 | Updated: 22 May 2013, 14:36
Mae teulu dyn o Ogledd Orllewin Lloegr fu farw wedi damwain awyren ger Maes Awyr Caernarfon Dydd Sul Mai 19 wedi bod yn talu teyrnged.
Mae Michelle Nuttall wedi disgrifio’i gŵr Iain fel dyn teulu cariadus ac ymroddedig, gan ddweud y bydd hi a’u mab Daniel yn ei garu am byth ac ni fyddant byth yn ei anghofio:
“Roedd Iain yn dad anhygoel a oedd yn caru ei fab yn fwy na dim”.
Mae ei fachgen 5 mlwydd a'i dad, y peilot John Nuttal, yn ddifrifol wael yn yr Ysbyty yn dilyn y ddamwain, ac mae ymchwiliad i'r achos yn parhau.
Mae cwest i farwolaeth y dyn 37 mlwydd oed o ardal Blackburn wedi ei agor a'i ohurio, a cafodd archwiliad post mortem ei gynnal bore Dydd Mercher, Mai 22.