Diffyg parch i blant Cymru
Comisiynydd Plant yn galw am well toiledau
Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ganolbwyntio ar gyflawni'r hanfodion ar gyfer plant, wrth i bwysau gynyddu ar gyllidebau sy'n lleihau.
Angen parch
"Mae'n ymddangos i mi, ar adeg o ansicrwydd ariannol, y dylem ni fod yn canolbwyntio'n hymdrechion a'n cyllidebau ar gyflawni'r hanfodion ar gyfer plant; o sicrhau bod systemau i amddiffyn plant rhag niwed a chamdriniaeth i sicrhau ein bod yn rhoi urddas a pharch i ddisgyblion ysgol trwy ddarparu cyfleusterau toiled digonol ar eu cyfer."
Ychwanegodd:
"Roeddwn i'n gobeithio mai'r llynedd fyddai'r tro olaf i mi orfod codi llais am gyflwr toiledau ysgol, ond gwaetha'r modd, mae plant a phobl ifanc yn dal i godi materion yn ymwneud â chyflwr toiledau'r ysgol gyda mi..."
Aeth y Comisiynydd ymlaen i ddweud:
"Dyw hi'n wir ddim yn ddigon da ein bod ni'n cael ein hunain yn 2010 mewn sefyllfa lle mae plant yn cael eu gorfodi i ddefnyddio toiledau heb seddau a heb ddrysau ar y ciwbiglau, gyda chyfleusterau ymolchi annigonol, a'u bod yn teimlo mor gryf am hynny fel eu bod yn osgoi defnyddio'r toiled yn ystod y diwrnod ysgol. Mae’n fater o urddas a pharch. Oni fyddai cymdeithas sy’n delio'n deg â phlant yn dangos mwy o barch?"
Er ei fod yn croesawu rhai datblygiadau allweddol mewn blwyddyn a fu'n un arwyddocaol o safbwynt hawliau plant yng Nghymru, gan gynnwys rhai camau gweithredu cynhwysfawr i ymdrin â masnachu plant a’r canllawiau newydd sy'n gofyn bod awdurdodau lleol yn ceisio barn plant ac yn ei hystyried wrth ad-drefnu ysgolion, mae adroddiad Keith Towler hefyd yn amlygu'r angen am edrych ar adnoddau ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc yn ddigonol.
Mae llefarydd Llywodraeth y Cynulliad yn dweud:
"Rydym yn croesawu adroddiad blynyddol y Comisiynydd sy'n codi materion pwysig sy'n effeithio plant a phobl ifanc ar draws Gymru.
"Mae sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn ymwybodol o, ac yn gallu cael mynediad i'w hawliau fel unigolion yn un o'n prif flaenoriaethau.
"Mae cyfrifoldeb am ddarpariaeth cyfleusterau toiled digonol yn gorffwys gydag awdurdodau lleol. Er hynny, rydym yn ymwybodol o bryderon ac yn y broses o baratoi cyfarwyddyd i Gyrff Rheoli Ysgolion, Penaethiaid ac Awdurdodau Lleol. Responsibility for the provision of adequate school toilet facilities rests wholly with local authorities. We are however aware of concerns and are in
"Rydym am gymryd amser i gysidro'r adroddiad yn llawn."
Bydd Keith Towler yn ymddangos gerbron Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth, 28 Medi, pan fydd Aelodau’r Cynulliad yn craffu ar gynnwys ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 09|10.
Gallwch lawrlwytho copi o’r Adroddiad Blynyddol o www.complantcymru.org.uk