Dirwy i fwyty ym Methesda

Mae gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus mewn erlyniad yn erbyn Mr Abdul Wahid mewn perthynas â throseddau hylendid bwyd yn y “Sitar Indian Take-Away”, 5-7 Stryd Fawr, Bethesda.

Ar ddydd Mercher, 8 Medi 2010, plediodd Abdul Wahid, perchennog y “Sitar Indian Take-Away”, yn euog i bum trosedd hylendid bwyd gerbron Llys Ynadon Caernarfon. Roedd hyn yn dilyn archwiliad arferol gan arolygwyr bwyd Cyngor Gwynedd a ganfu fod y busnes yn gweithredu heb gyflenwad o ddwr poeth, fod y gegin mewn cyflwr gwael o ran glanweithdra a strwythur ac oherwydd diffyg goruchwyliaeth a hyfforddiant y staff.

Roedd Mr Wahid hefyd wedi methu â chydymffurfio â Rhybudd Gwella Hylendid a oedd yn ymwneud â gweithredu System Rheoli Diogelwch Bwyd.

Fe’i dirwywyd £2,000 ac fe’i gorchmynnwyd i dalu costau o £500.

Dywedodd Ffion Wyn Hewson, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r gyfraith yn disgwyl pob busnes bwyd i gael System Rheoli Diogelwch Bwyd yn ei le sy’n dangos mewn manylder sut maent yn sicrhau diogelwch bwyd.

“Mae Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo’r pecynnau syml ‘Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell’ (SFBB), sydd wedi eu Datblygu er mwyn helpu busnesau bwyd i gydymffurfio gyda rheoliadau hylendid bwyd. Mae’r pecynnau ar gael ar gyfer busnesau arlwyo bach fel bwytai, caffis a busnesau bwyd parod sy’n paratoi bwydydd dull coginio Tsieineaidd, Indiaidd, Pakistanaidd, Bangladeshaidd neu Sri Lankaidd.

“Roedd y busnes penodol yma wedi cael pob cyfle posib gan wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor gan gynnwys copi am ddim o’r pecyn SFBB, gweithdy yn canolbwyntio ar weithredu’r SFBB yn ogystal â nifer o ymweliadau cynghorol.

“Yn ddibynnol ar y risg, rydym yn defnyddio ystod o opsiynau gorfodaeth er mwyn sicrhau fod busnesau yn cydymffurfio gyda rheoliadau hylendid bwyd, gan gynnwys addysg a chyngor, rhybuddion anffurfiol, cyflwyno rhybudd, neu gau eiddo neu erlyn yn yr achosion mwyaf difrifol.

“Oherwydd difrifoldeb yr hyn ganfuwyd yn y busnes penodol yma, yn ogystal â’r hanes gwael o gydymffurfio gyda rheoliadau hylendid bwyd a’r methiant i gydymffurfio â Rhybudd Gwella Hylendid, erlyniad oedd y dewis mwyaf addas. 

“Fel Cyngor, rydym yn ceisio gweithio gyda busnesau bwyd ac erlyniad yw’r cam pellaf. Ond gall y rheini sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith a rhoi Iechyd y cyhoedd mewn peryg gael eu galw gerbron llys gan greu sylw negyddol i’w busnes ynghyd â chosb ariannol.

“Mae gwelliannau wedi eu gwneud yn y busnes bellach, ac mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio gyda Mr Wahid er mwyn sicrhau fod y safonau hylendid uchaf yn cael eu cynnal yn y ‘Sitar Indian Take Away’.”

Dylai unrhyw fusnes bwyd o Wynedd sy’n awyddus i dderbyn rhagor o wybodaeth neu gyngor, gysylltu gyda thîm Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd ar 01286 682 728.