Fflam Olympaidd yn dod i gopa'r Wyddfa
Mae pwyllgor y Gemau Olympaidd wedi gyhoeddi mai pwynt UCHAF y fflam ar ei ddaith flwyddyn nesa... Fydd copa'r Wyddfa!
Fe fydd y Fflam yn cyrraedd Gwynedd ar yr wythfed ar hugain o Fai... Gan alw yn Nolgellau, Llan Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog... Porthmadog, Cricieth, Pwllheli, Bontnewydd, Caernarfon, Felinheli a Bangor... Ac yn gwneud ei thaith i fyny i gopa uchaf Cymru a Lloegr.
Yna'n mynd dros y bont i Borthaethwy a Biwmares y diwrnod canlynol...Mae yna ddisgwyl i'r fflam gyrraedd Llundain ar yr unfed ar hugain o Orffennaf, gyda'r gemau'n cychwyn ar y seithfed ar hugain o Orffennaf.