Gorffen cacen Brenhinol!
Mae tim cogyddion Cymru wedi gorffen gwneud cacen arbennig sydd wedi derbyn sel bendith y Teulu Brenhinol!
Mae aelod o'r tim, Sally Owens, o Landrillo yn Rhos wedi rhoi dros dri chan awr o'i hamser i wneud y gacen.
Mae'r pedair haen yn cynnwys delweddau Cymraeg fel y ddraig goch a thelyn, ac mi fydd y tîm yn rhoi'r gacen i'r elusen Centrepoint.