Gwaith Atgyweirio Pont Britania

Bydd mwy na 50 o beirianwyr yn treulio'r 4 mis nesaf yn atgyweirio Pont Britania...

Fyddan nhw'n trwsio muriau, adnewyddu draeniau, ail-beintio a garddio.

Mae'r gwaith yn debygol o gostio £4m - Llywodraeth y Cynulliad, Network Rail a Asiantaeth Priffyrdd y DU sy'n talu.

Er mwyn sicrhau bod y bont yn aros ar agor i draffig bydd y peirianwyr yn gorfod gweithio o uchder gan ddefnyddio rhaffau abseil a phlatfforms symudol.

Mae Pont Britania - sy'n cysylltu Ynys Mon a glannau Gwynedd - yn 160 o flynyddoedd mewn oed.