Gwasanaeth iechyd meddyliol i gyn-filwyr yn cael ei ymestyn ar draws Cymru
Bydd prosiect peilot sy’n cynorthwyo aelodau o’r lluoedd arfog sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i’w gwasanaeth yn cael ei ymestyn ar draws Cymru. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd Edwina Hart heddiw [Dydd Llun Mawrth 8fed].
Mae’r gwasanaeth, a brofwyd yn gyntaf yn ardaloedd Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf, yn rhoi cyfle i gyn-filwyr gael eu gweld gan glinigwyr sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl y cyn-filwyr er mwyn cael eu hasesu a derbyn y gofal priodol.
Lleolwyd y cynllun peilot yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac fe barhaodd ddwy flynedd. Cafodd ei ariannu â £135,000 gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bydd y gwasanaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad o fis Ebrill ymlaen â buddsoddiad o £485,000 y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys y canlynol:
- Asesu cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl yn drylwyr o ran eu hanghenion meddyliol a chymdeithasol;
- Bydd cyn-filwyr a gofalwyr yn cael eu cynnwys wrth i gynllun rheoli gael ei ddatblygu a fydd yn cwrdd â’u hanghenion iechyd a gofal.
- Rhoi gwybodaeth i gyn-filwyr a gofalwyr ynglŷn â’r cymorth a’r gwasanaethau eraill y gallant eu hawlio i wella’u hiechyd ac ansawdd eu byw.
Mae cyn-filwyr yng Nghymru eisoes yn cael blaenoriaeth wrth dderbyn triniaeth gan y GIG ar gyfer cyflyrau iechyd sy’n deillio o’u gwasanaeth fel milwyr. Yn ogystal mae’r Gweinidog Iechyd wedi mynnu bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn penodi Pencampwr y Lluoedd Arfog a’r Cyn-filwyr er mwyn sicrhau gwelliannau.
Meddai Mrs Hart: “Rwy’n benderfynol y byddaf yn gwella’r gofal sy’n cael ei gynnig i bobl sy’n dioddef â’u hiechyd oherwydd eu gwasanaeth fel milwyr. Mae’n dyled iddynt yn fawr ac mae dyletswydd arnon ni ofalu amdanynt.
“Rwy’n cydnabod gymaint y mae gwasanaeth milwrol wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl. Rwy’n cael arddeall bod y prosiect peilot hwn o dan arweiniad yr Athro Jon Bisson wedi bod yn fuddiol tu hwnt i’r sawl sydd wedi derbyn cymorth. Dyna pam rwy’n gweithredu’n gyflym ac yn rhoi arian i ymestyn y gwasanaeth fel bo unigolion a’u teuluoedd ledled Cymru’n elwa gymaint byth ag y gallan nhw.
“Yn ogystal byddaf yn dod â staff uwch at ei gilydd o blith y GIG, Llywodraeth y Cynulliad a’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer gweithdy. Yno byddwn yn ystyried sut gallwn ni gryfhau eto y gofal a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog a chyn-filwyr.”
Meddai’r Athro Jon Bisson: “Mae hwn yn newyddion gwych a chyffrous tu hwnt. Bydd Byrddau Iechyd nawr yn pennu staff er mwyn cynnig gwasanaeth fydd yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun peilot. Bydd cyn-filwyr ar draws Cymru’n cael manteisio ar wasanaeth lleol sydd wedi’i gynllunio i gwrdd â’u hanghenion nhw.”
******************************************************************************************************
A pilot project to support armed services personnel experiencing mental health problems as a result of their service will be extended across Wales, Health Minister Edwina Hart announced today [Monday, 8 March].
The service, which has been trialled in the Cardiff and Vale and Cwm Taf Health Board areas, offered access to clinicians with expertise in veterans’ mental health to provide assessment and suitable treatment.
The two-year pilot was based at the University Hospital of Wales, Cardiff, funded by £135,000 from the Welsh Assembly Government and Ministry of Defence.
The new all-Wales service will be funded fully by the Assembly Government from April with an investment of £485,000 per year.
The new service will include:
- Veterans who experience mental health and well-being difficulties to have a comprehensive assessment to assess their psychological and social needs;
- Veterans and carers to be involved in the development of a management plan to meet their health and care needs; and,
- Veterans and carers to be given information on other services and support that they are entitled to in an effort to improve their health and quality of life.
Veterans in Wales already receive priority treatment on the NHS for a health condition related to their military service and the Health Minister has required Health Boards and NHS Trusts to designate an Armed Forces and Veterans’ Champion to drive forward improvements.
Mrs Hart said: “I am determined to improve the care for people who have experienced health problems as a result of their military service. We owe them a debt of gratitude and have a duty of care to them.
“I recognise the impact that military service has had on people’s mental health. I understand that people who have been supported by this pilot project under the leadership of Professor Jon Bisson have found it extremely beneficial. That is why I am acting quickly to fund the expansion of this service to maximise the benefits for individuals and their families across Wales.
“In addition, I am bringing together senior staff from the NHS, Assembly Government and Ministry of Defence at a workshop to look at how we can further strengthen care and support for members of the armed services and veterans.”
Professor Jon Bisson added: “This is excellent and very exciting news. Health Boards will now identify staff to deliver a service that will allow us to build on the success of the pilot project and ensure that veterans across Wales can access and benefit from a local service that is tailored to meet their needs.”