Heddlu'r Gogledd o gymorth

Mae Heddlu'r Gogledd wedi gyrru heddweision i Lundain a Manceinion wedi terfysgoedd yno.

Mae'r swyddogion sydd wedi cael eu gyrru o'r Gogledd i Lundain a Manceinion wedi derbyn hyfforddiant arbennig i ddelio gyda therfysgoedd.

Wedi noson dawel ledled Lloegr neithiwr (Dydd Mawrth Awst 10fed)- a rhai'n diolch i'r glaw trwm am hynny... Mae llysoedd a gorsafoedd heddlu wedi bod yn gweithio trwy'r nos i geisio ymdopi â'r nifer enfawr sydd yn y ddalfa...

Er nad oes yna derfysg mawr wedi bod yma yng Nghymru yn y dyddiau dwytha'... Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud wrth Heart y bydd dyn un ar hugain oed o ardal Bangor yn ymddangos o flaen ynadon yng Nghaernarfon ddiwedd y mis. Fe gafodd o'i arestio ar amheuaeth o annog troseddu...