Marwolaeth Mam a'i Phlant yn Ddamweiniol
Fe glywodd cwest y gallai ditectif a'i dau fab fod wedi goroesi tan yn eu ty pe bai larymau wedi'u gosod yno.
Bu farw DC Heather Bickley - 45 oed - ei meibion Felix - 10 oed - ac Oscar - 5 oed - ar ol anadlu mwg yn eu cartref yn Tynygongl, ger Benllech fis Mehefin.
Fe ddywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones mewn cwest yn Llangefni: "Fydden nhw fod wedi cael y cyfle i ddianc cyn bod y tan wedi cynnau gormod" pe bai larymau yn y ty.
Fe gofnododd bod y tri wedi marw yn ddamweiniol.
Chafodd gwr DC Bickley, John Bickley - sy'n dylunio siopau - ddim ei alw i roi tystiolaeth ger bron y cwest. Ar y noson ym mis Mehfin fe ddychwelodd i'w dy ar ol bod yn gweithio yn hwyr gan ganfod y cyfan yn wenfflam.
Trasiedi
Fe ddywedodd y crwner: "Mae pob achos crwner yn drasig ond mae hwn yn fwy trasig fyth gan fod teulu cyfan wedi'u difa - heblaw am y tad".
Fe ychwanegodd Mr Pritchard-Jones: "Fe ymddengys mai rhewgell, neu fodur y rhewgell, yn mynd yn rhy boeth achosodd y tan."