Pont Newydd Penrhyndeudraeth

Bydd pont newydd yn cael ei adeiladu dros afon Dwyryd yng Ngwynedd at gost o £20m.

Am y tro cynta' bydd trenau, loriau a cherbydau'r gwasanaethau argyfwng yn gallu croesi'r afon ger Penrhyndeudraeth.

Mae'r bont sydd yno yn barod yn rhy gul a bregus i gerbydau mawrion felly mae disgwyl i'r bont newydd yma gymryd lle'r hen Bont Briwet.

Hwb i'r Economi

Bydd y cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng Network Rail a Chyngor Gwynedd.  Bydd trac trenau hefyd yn rhedeg ar hyd y bont.

Un sy'n croesawi'r buddsoddiad newydd yw Uwch Arweinydd Datblygu Cyngor Gwynedd, Dewi Lewis:

"Mae'n fuddsoddiad pwysig iawn i'r ardal - o fudd economaidd a chymdeithasol i ardal Penrhyndeudraeth lawr i Harlech a chyffiniau Talsarnau."

"Fyddwn ni'n lledu'r bont fel bod o'n gallu bod yn font trafnidaeth 2 ffordd, a bydd o'n sicrhau dyfodol lein y Cambria ac yn creu llwybr beics a llwybr cerdded hefyd".

"Mi gymerith hi rhwng 2 a 3 blynedd i gwblhau'r gwaith".