Taclo'r Perygl o Lifogydd ym Mwllheli

Bydd cyfle i bobl Pen-Llyn drafod ffyrdd o fyw a risg gynyddol o lifogydd a achosir gan newid hinsawdd mewn arddangosfa gyhoeddus ym Mwllheli ddydd Mercher a Dydd Iau, 29-30 Medi.

Dim ond dau gynllun arall o'i fath sydd i'w gweld yng Nghymru gyfan - yn edrych ar ffyrdd amgen o ddelio a chanlyniadau tywydd cyfnewidiol a llanw uwch.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth a Llywodraeth y Cynulliad, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad a Dwr Cymru ar y cynllun - maen nhw'n awyddus i'r gymuned leol leisio'u barn a rhannu syniadau.

Yny ystod yr arddangosfa - sy'n cael ei chynnal yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli - bydd model hydrolig yn dangos rhai o'r syniadau sy'n cael eu trafod i oresgyn problemau llifogydd yn yr ardal.

Yn dilyn cyfnod ymgynghorol bydd strategaeth fanwl, tymor hir yn cael ei lunio.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portfollio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

"Ry'm i gyd yn ymwybodol y gall newid hinsawdd achosi tywydd newidiol a garw ac o bosib llanw uwch, fydd wrth gwrs yn effeithio tref glan mor fel Pwllheli yn fawr iawn.  Mae'n hanfodol ein bod yn meddwl am y ffordd bydd hyn yn effeithio sut rydym yn byw ac yn gweithio ac ein bod yn dechrau cynllunio rwan."