Teyrnged i fotorbeiciwr

Mae teulu'r motorbeiciwr a bu farw mewn gwrthdrawiad gyda char ar Ynys Môn nos Sadwrn wedi talu teyrnged.

Bu farw Kevin Hughes, oedd yn 53 ac o Borth Llechog, ar yr A5025.

Mae'n gadael gwraig a phedwar o blant.
                            
Mae'n cael ei ddisgrifio fel "dyn teuluol cariadus oedd yn llawn bywyd a chaiff ei fethu gan ei deulu a'i ffrindiau."