Troi Cardiau Nadolig yn Goed i Wynedd

Bydd coedwig ger Llanegryn yng Ngwynedd yn elwa o ymgyrch gan Ymddiriedolaeth Coed Cadw i annog pobl Cymru i ailgylchu eu caridau 'Dolig.

Mae Coedwig Ysgubor Wen yn un o nifer o goedwigoedd ar draws y Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn arian i blannu coed ychwanegol dros y blynyddoedd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn annog pobl i ailgylchu eu cardiau mewn blychau arbennig yn siopau TK Maxx, Marks and Spencers a HomeSense.

Bydd yr arian ddaw o'r ailgylchu yn cael ei wario ar brynu coed.

Y llynedd, llwyddwyd i blannu 12,000 o goed led led Prydain o ganlyniad i'r cynllun. 

Yn ol Rory Francis o Goed Cadw:

"Mae cynllun ailgylchu'r ymddiriedolaeth wedi gwneud newid sylweddol i amgylchedd y Deyrnas Unedig - gan greu tiroedd coediog ar draws y wlad gan ddarparu buddion i gymunedau a bywyd gwyllt."