Wylfa B Gam yn Nes

Mae atomfa niwclear newydd i Ynys Mon gam yn agosach.

Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Ynni y llywodraeth - Chris Huhne - bod Wylfa B yn un o wyth safle addas ar gyfer atomfeydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn ol Chris Huhne mae angen ffynhonellau newydd, amrywiol o ynni ar y Deyrnas Unedig ar frys.

Bellach bydd rhaid i gwmni niwclear gynnig cais cynllunio i'r llywodraeth.

Mae cwmni Horizon Nuclear Power wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw yn gobeithio cynnig cais am safle Wylfa newydd erbyn diwedd 2011 gan greu cannoedd o swyddi.

"Cam Ymlaen, Dim y Cam Penderfynol"

Fe groesawodd Arweinydd Cyngor Mon - Clive MacGregor - y cyhoeddiad, gan fynnu bod llawer o waith yn dal i'w wneud:

"Bydd raid i gwmni Horizon godi £8.5bn i wireddu eu cynlluniau yn Ynys Mon.  Cam ymlaen ydyw heddiw - dim y cam penderynol".

Wrth ymateb i'r newyddion fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan:

"Mae cynnwys Wylfa B ar restr o safleoedd allai gael eu defnyddio ar gyfer cenhedlaeth newydd o atmofeydd yn cynnig gobaith arbennig y bydd cynhyrchu trydan yn parhau ar Ynys Mon am flynyddoedd i ddod."

Wylfa yn Parhau am 2 Flynedd

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddwyd y bydd trydan yn dal i gael ei gynhrychu ar safle presennol Wylfa am 2 flynedd arall.