Craen enfawr yn dod i Wynedd!

Mae craen sydd ymysg y fwyaf yn Ewrop wedi dod i Wynedd er mwyn gosod pont ar ffordd osgoi newydd.


Mae gwaith wedi cychwyn ar font Glaslyn, fydd yn rhan flaenllaw o ffordd osgoi Porthmadog, sydd werth £35 miliwn o bunnau.

Mi fydd y rhan newydd o'r lon A487 yn golygu bydd gyrwyr yn gallu osgoi Porthmadog, Tremadog a Minffordd ac mae yna ddisgwyl i'r ffordd fod ar agor erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'n bosib gweld y craen 60 metr o filltiroedd i ffwrdd, ac mae 630 tunnell!