£7.6m i Unedau Damwain ac Argyfwng
Mae Unedau Damwain ac Argyfwng dwy o ysbytai Gogledd Cymru yn mynd i dderbyn dros £7.6m.
Mae'n rhan o brosiect ariannu ehangach gan Lywodraeth y Cynulliad - yn gyfangwbl bydd dros £31m yn cael ei wario ar draws y wlad.
Ond y bwriad yw arbed arian - drwy wella gwasanaethau a'u gwneud yn fwy effeithlon.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn £7,660,692 i atgyweirio unedau Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd - y gobaith yw bydd hyn yn arbed £2,706,000 y flwyddyn.
Cyd-Leoli
Bydd unedau'r ysbytai yn cyd-leoli eu gwasanaethau allan o oriau. Yn ol y Weinidog Iechyd - Edwina Hart - "trwy ganoli gwasanaethau cymhleth mewn un lleoliad - bydd cleifion yn cael gofal sy'n fwy diogel ac o ansawdd uwch. Bydd hefyd yn cael ei arwain mwy gan arbenigwyr, yn ogystal ag arbed arian i'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol".