Alexandra Burke yn dod i Ogledd Cymru

Mae Alexandra Burke wedi cyhoeddi ei bod hi'n dod i Ogledd Cymru fel rhan o'i taith hi ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd seren y gan "Bad Boys" yn perfformio yn Theatr y Pafiliwn Rhyl ym mis Ionawr cyn mynd i'r Echo Arena yn Lerpwl ym mis Chwefror.

Enw'r daith yw "All Night Long".

Mae tocynnau ar gyfer ei pherfformiad yn Rhyl ar 15ed Ionawr yn mynd ar werth ddydd Gwener.