Aliwminiwm Môn ar Werth
Mae safle Aliwminiwn Môn ar werth gyda gwahoddiad i bobl gynnig oddeutu £10m i'w phrynu.
Mae Cyngor Môn wedi bod yn gweithio gyda chwmni AAM Ltd a Llywodraeth y Cynulliad ers dros flwyddyn ac mae nhw bellach yn ffyddiog y daw swyddi yn ol i'r safle.
Fe gollodd 400 o bobl eu gwaith pan gaeodd y ffatri smeltio yno yn 2009.
Fe ddywedodd Sasha Davies o Gyngor Mon:
"Mae 'na ddiddordeb allan yn y farchnad i wneud a'r sector ynni."
"Mae 'na lot o waith caled yn dal i'w wneud. Ond ry'm ni'n obeithiol y bydd na swyddi pwysig a swyddi da ar y safle yna ymlaen."
SAIN: Sasha Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Mon yn siarad a Steffan Messenger o Heart.