Prif Straeon Ynys Môn a Gwynedd
2 May 2014, 13:53
Y newyddion diweddara ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd
DYDD GWENER 2ail MAI
Mae diffoddwyr tan ledled Gogledd Cymru wedi cychwyn streic 5 awr prynhawn yma.
Hyn yn rhan o gyfres o streiciau cenedlaethol fydd yn cael eu cynnal rhwng heddiw a Dydd Sul.
Fe fydd diffoddwyr yn ymateb i alwadau 999.
YMGYRCH MASNACHU POBL
Mae ymgyrch yn erbyn masnachu pobl wedi cychwyn ym Mhorthladd Caergybi.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddioddefwyr yn y dref a ledled Gogledd Cymru.