Anrhydeddau'r Frenhines

Mae rhai o'r pobl sy' wedi cyfrannu yn helaeth i gymunedau Gwynedd a Mon dros y blynyddoedd wedi eu anrhydeddu yn rhestr Flwyddyn Newydd y Frenhines...

Mae David John Williams o Flaenau Ffestiniog yn derbyn anrhydedd am ei waith gyda choed.

Bydd y dringwr, Joe Brown - sy'n 80 ac yn byw yn Llanberis yn derbyn CBE.

Mae Heather Abbott, oedd yn arfer gweithio fel nyrs yng Nghaergybi, yn derbyn OBE am ei gwaith gyda chleifion canser.

Mae Ian Jones yn derbyn MBE am 25 mlynedd o waith gyda chriw badau achub Llandudno.

Mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru - Gareth Vaughan - yn derbyn MBE.