Apel at Gydwybod Bangor am Fodrwy Coll

Mae gweithiwr iechyd o Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi cysylltu a Heart i son am ei siomedigaeth ar ol colli modrwy briodas ei diweddar wr...

Bu farw gwr Susan Watkins o Faesgeirchen ym mis Hydref 2009 o fethiant aren.  Ar ei wely angau fe gymrodd Mrs Watkins fodrwy briodas ei gwr a'i gwisgo bob diwrnod ers hynny.

Ond ar Ddydd Mawrth, Ionawr 11 rhwng siopa ym Mangor a chyrraedd y gwaith yn Ysbyty Gwynedd fe syrthiodd y fodrwy oddi ar ei bys.

Bellach mae Mrs Watkins yn ymbil ar gydwybod pobl Bangor i gael y modrwy'n ol iddi.

"Mae colli'r fodrwy yna yn teimlo fel colli fy ngwr i unwaith yn rhagor.  Y fodrwy oedd fy nhrysor penna'.  Dwi'n teimlo'n ofnadwy."

Mae Mrs Watkins yn disgrifio'r fodrwy fel un aur, syml, tenau.  Mae yna nam fach oddi mewn ac mae'r fodrwy yn fwy llydan nag un dynes arferol.