Arddangofa Goroesydd Ymosodiad Morthwyl

Mae merch oroesodd ymgais i'w llofruddio yn 1996 bellach yn arddangos eu harlunwaith mewn arddangosfa arbennig ar Ynys Mon.

Roedd Josie Russell yn naw mlwydd oed pan ymosododd dyn o'r enw Michael Stone arni hi, ei mam a'i chwaer wrth iddyn nhw gerdded i'r ysgol yng Nghaint.

Bu farw ei mam a'i chwaer yn yr ymosodiad.

Ar ol y digwyddiad fe symudodd Josie a'i thad yn ol i Wynedd - lle fuon nhw'n byw cyn yr ymosodiad.

Mae Josie - bellach yn 23 - newydd raddio o Brifysgol Bangor mewn graffeg.

Arddangosfa

Mae 15 o weithiau tecsteil Josie yn mynd ar werth mewn arddangosfa arbennig ym Mhlas Newydd, un o adeiladau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ynys Mon.

Mae disgwyl i'r tirluniau o Eryri werthu am oddeutu £200 yr un.

Angerdd

Ar ei gwefan mae Josie'n dweud:

"Fe ddechreuodd fy nheimladau angerddol am gelf a dylunio pan oeddwn i'n ifanc iawn."

"Pan nad ydw i'n gweithio ar wneud gwaith celf rydw i fel arfer i'm canfod yn yr awyr agored - yn fy ngardd, neu yn cerdded drwy fynyddoedd prydferth Parc Cenedlaethol Eryri."

Bellach mae Josie yn bwriadu teithio ar hyd a lled Gogledd Cymru yn arddangos ei gwaith mewn gwyliau crefft.

Michael Stone

Fe ddioddefodd Josie anafiadau i'w phen yn yr ymosodiad 14 o flynyddoedd yn ol. 

Cafodd Michael Stone ei ddedfrydu i garchar am oes.