Athlete yn Ystyried Canu yn Gymraeg?

Mae prif-leisydd y band Athlete yn ystyried canu yn Gymraeg pan fydd yn ymddangos yng Ngŵyl y Faenol eleni.

Bu Heart 103 yn cyfweld a Joel Pott, sydd hefyd yn chwarae'r gitâr i'r band indi-roc o Lundain.

Ail-Gartre'

Meddai Joel, 31, ei fod e'n disgwyl mlaen yn arw at gael dod i'r Faenol fis Awst.

"Fe allech chi ddweud mai gig ail-gartre yw hi i mi.  Mae'r [Faenol] rownd y gornel o dy dwi a fy chwiorydd yn berchen".

Mae Joel a'i deulu wedi bod yn dod i'r tŷ ym Mhen Llyn ers pan oedd e'n fachgen bach.  Mae ganddo atgofion da o wyliau yng Nghymru - yn enwedig "dringo gyda Dad yn Eryri". 

Mae teulu ei wraig yn byw ar Ynys Môn felly mae'n dal i ymweld â'r ardal yn aml.

Llonydd

"Fel rhywun o Lundain" mae Joel yn gwerthfawrogi "llonydd" Gogledd Cymru.  "Mae'r môr a'r mynyddoedd mor agos atoch chi - dwi'n ei garu fe - mae'n wyllt a phrydferth".

"Os yw'r tywydd yn rili rybish, mond i chi yrru ugain munud lawr y lon ma' fe'n gallu bod yn grêt rhywle arall - dwi'n dwli ar hwnna!"

Disgwyl Mlaen i'r Faenol

Y cerddor o Gaerdydd, Pete Lawrie gyflwynodd Joel i Ŵyl y Faenol.  Mae yntau hefyd yn perfformio ar lwyfan yr Ŵyl eleni.

Yn ôl Joel, mae Athlete yn disgwyl mlaen at gael bod yn rhan o rywbeth gwahanol.  "Ma' fe'n gymysgedd neis o gerddoriaeth leol a stwff o ar draws y wlad."

Canu yn y Gymraeg

Ond beth am yr holl gerddoriaeth Gymraeg?  Oedd gan y band unrhyw syniad fod 'na sic roc Gymraeg yn bodoli?

"O'n i'n gw'bod bod e'n digwydd ond dwi heb wrando ar unrhyw ganeuon Cymraeg eto.  Mae'n rhywbeth y dylen i wneud.  A falle y dylen ni fel band fod yn meddwl am wneud ambell i gan yn y Gymraeg."

Pen-blwydd yr Ŵyl

Mae Gŵyl y Faenol yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 mlwydd oed eleni.  Yn ogystal ag Athlete mae'r trefnwyr wedi llwyddo bachu'r band o Iwerddon - Westlife ynghyd a llwyth o sêr eraill.

Bydd y tenor Rolando Villazon yn ymuno a Bryn Terfel ar gyfer y Gala Operatig.

Bydd gig fawr Tan y Ddraig yn cynnwys perfformiadau gan The Feeling, Shed Seven a The Roads ynghyd a'r bandiau Cymraeg o Ogledd Cymru - Yr Ods a Masters in France.

A bydd y digrifwyr Al Murray ac Ed Byrne yn dod a'r wyl at ei therfyn.