Bryn a Bing yn Mynd Amdani

Mae'r canwr byd-enwog o Bant Glas - Bryn Terfel - wedi dechrau ei frwydr am rhif un y Nadolig.

Cafodd 'White Christmas' - deuawd gyda'r diweddar Bing Crosby - ei ryddhau y bore yma.

Mae un arolwg o brynwyr cerddoriaeth wedi gosod y ddau ar frig y siartiau yn barod.  Fe holodd Allianz Musical Insurance 3000 o bobl yn y Deyrnas Unedig pa gan fydden nhw yn ei phrynu, gyda Bryn a Bing ar y brig. 

Yn ail yn arolwg cwmni Allianz oedd sengl ennillydd cystadleuaeth yr X Factor.

Matt Cardle

Neithiwr - o flaen cynulleidfa deledu yn y degau o filiynau - fe ennillodd paentiwr o Essex yr X Factor.  Bellach bydd sengl gyntaf Matt Cardle - When We Collide - yn darparu cystadleuaeth gref i ymdrechion Bryn Terfel.

Fe fethodd ennillydd X Factor 2009 a chael rhif 1 y Nadolig ar ol i ymgyrch ar y we annog pobl i brynu can gan y band roc Rage Against the Machine.  Ond bob blwyddyn er 2005, ar wahan i llynedd, mae ennillydd yr X Factor wedi cyrraedd brig y siartiau dros yr wyl.

Canu yn y Gymraeg

Mae sengl Bryn Terfel yn rhan o albym a chanddi gasgliad o garolau Cymraeg. 

Wrth siarad a Heart fe ddywedodd Bryn Terfel "roedd 'na mwy o bwysigrwydd i mi yn y ffaith bod deg o'r caneuon yn cael eu canu yn y Gymraeg".

"Mae'n drueni nad oedd Bing erioed wedi recordio White Christmas yn y Gymraeg - y Nadolig gwyn!"

Fe ychwanegodd - "mae'r sengl wedi tanio rhyw fflam yn niddordeb pobl a gobeithio cawn ni weld os fydd Bing Crosby yn cael ei anelu i frig y siartiau... fe fyddai hynny'n 'fonws'."