Bugeilio Strydoedd Bangor
Bydd gwirfoddolwyr o gwmni Cristnogol yn helpu'r heddlu ar nosweithiau Gwener ym Mangor.
Bydd y 'bugeiliaid' yn roi help llaw i bobl sydd mewn trafferth gan sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd adref yn ddiogel.
Fe fyddan nhw'n clanhau'r strydoedd o wydr sydd wedi torri hefyd.
Heddlu yn Hapus
Mae Heddlu'r Gogledd yn croesawi'r syniad. Dywedodd yr Uwch Arolygydd Mark Jones "mae gan Fangor fywyd nos bywiog a dwi'n siwr bydd Cynllun Bugeilio'r Strydoedd yn helpu diogelu pobl sy'n agored i niwed a chyfrannu at wneud ein strydoedd ni'n fwy diogel."
Ychwanegodd - "Mae fy swyddogion yn disgwyl ymlaen at weithio gyda'r Bugeiliaid."
Hyfforddiant
Mae'r cynllun yn cael ei lawnsio ar Orffennaf 16eg ond fydd y bugeiliaid ddim yn gweithio tan yr Hydref. Cyn hynny, bydd y gwirfoddolwyr o Cytun - partneriaeth eglwysi Bangor - yn hyfforddi gyda'r heddlu a gwasanaethau eraill drwy ymuno a nhw ar strydoedd y ddinas rhwng 10yh a 4yb bob nos Wener.