Cadarnhad: Corff Elizabeth Ashbee

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff menyw o'r Amythig aeth ar goll oddi ar arfordir Ynys Mon mewn kayak.

Daethpwyd o hyd i gorff Elizabeth Ashbee ym Mae Caernarfon ddydd Mawrth Awst 31ain 2010.

Roedd hi wedi bod ar goll ers ddydd Sul pan gafodd eu gwahanu o'i chlwb kayak mewn amodau anodd oddi ar yr arfordir ger Rhosneigr.

Fuodd timau achub yn chwilio amdani yn ddyfal - gyda tri hofrennydd, dau fad achub, a thimau o wylwyr y glannau a'r heddlu yn teithio ar hyd arfordir orllewinol Gogledd Cymru.

Teyrnged

Roedd Elizabeth Ashbee yn aelod o Glwb Canwio'r Amwythig ac yn hwylio gyda nhw ar y pryd.  Mae'r clwb wedi talu teyrnged iddi fel "cymeriad go iawn".  Maen nhw wedi mynegi eu diolch i'r timau achub am eu dyfalbarhad ac wedi ymestyn eu cydymdeimlad i deulu Ms Ashbee.