Canlyniadau TGAU Gwynedd a Môn

Am y 23ain flwyddyn yn olynol mae canlyniadau TGAU'r wlad wedi gwella.

Llwyddodd bron i bob disgybl yng Ngwynedd a Môn basio eu holl arholiadau.

Dyma gyfweliad Steffan o Heart gyda rai o ddisgyblion llwyddiannus Ysgol Tryfan ym Mangor:

Gwynedd

Dywedodd Dewi R Jones, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, ei fod yn hapus iawn gyda chanlyniadau TGAU yn yr ysgolion.

Meddai: “Mae canlyniadau ysgolion Gwynedd yn dda iawn eto eleni ac mae’r disgyblion i’w llongyfarch yn fawr iawn am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Mae’r ganran a enillodd graddau A*-C wedi gwella ers llynedd i 70.5% tra bo canran y graddau uwch [A* ac A] hefyd ychydig yn uwch na llynedd [20.1%].

“Mae’r ffigyrau hyn yn uwch na’r cyfartaleddau ar gyfer Cymru [66.4% a 19.2%]. Rwyf hefyd yn falch o adrodd bod y ganran sydd wedi llwyddo i ennill graddau A*-G yn 99.5%, sydd yn dda iawn ac sydd eto’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 98.7%. Mae’r canlyniad yn adlewyrchu’r pwyslais a roddir yn ysgolion Gwynedd ar gynhwysiad, cyfle cyfartal a llwyddiant disgyblion fel unigolion. Mae’r canlyniadau hyn yn rhai i ymfalchïo ynddynt.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:

"Mae’r canlyniadau ardderchog yma yn dyst i ymroddiad ein pobl ifanc, athrawon a rhieni – mae llwyddiant ein pobl ifanc yn allweddol i ddyfodol Gwynedd.

"Hoffwn longyfarch pob un o'r bobl ifanc am eu gwaith caled a’u llwyddiant, ac yn benodol i'r rheini sydd wedi cyflawni eu potensial. Dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.”

Ynys Môn

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Mon, Richard Parry Jones: “Mae canlyniadau TGAU yn dda eto eleni ac yn dyst i ymroddiad ein pobl ifanc a’u hathrawon a chefnogaeth  rhieni. Gallwn fod yn falch iawn o lwyddiant addysgol ein pobl ifanc - ffactor  allweddol i ddyfodol y Sir. Hoffwn longyfarch pob un sydd wedi llwyddo yn yr arholiadau, ac yn benodol y rhai hynny sydd wedi ymdrechu'n galed  ac wedi cyflawni eu potensial – nid yw’r ystadegau moel bob amser yn adlewyrchu hyn.

“Mae’r canran sydd wedi llwyddo i ennill A*-G [99.2%] yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol o 98.7% ac yn adlewyrchu’r pwyslais a roddir yn ysgolion Ynys Môn ar sicrhau bod pob un unigolyn yn cael y gefnogaeth angenrheidiol a’r anogaeth i lwyddo.

 “Er bod y canrannau a enillodd raddau A* ac A [18.2%] a graddau A*-C [64.9%] ychydig yn is na’r ffigyrau cenedlaethol, mae’r perfformiad yn ganmoladwy iawn. Dylid nodi nad yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys y nifer cynyddol o’n pobl ifanc sydd yn  llwyddo mewn cyrsiau ac arholiadau galwedigaethol.”

Ychwanegodd y deilydd portffolio Addysg, y Cynghorydd Eurfryn Davies: “Mae’r rhain yn ganlyniadau da eto eleni – mae’r disgyblion i’w llongyfarch yn fawr. Mae llwyddiant pob un o’n pobl ifanc yn allweddol bwysig i ddyfodol yr Ynys. Byddwn am ddiolch i’r athrawon am eu gwaith caled a chyson ac am baratoi’r disgyblion mor drylwyr ar gyfer yr arholiadau.”