Canolfan Newydd yn dod a 900 o Swyddi

Mae'r Prif Weinidog wedi lawnsio gwaith adeiladu canolfan gelfyddydol ac arloesi newydd ar gyfer dinas Bangor...

Y gobaith yw y bydd canolfan 'Pontio' yn agor ei drysau yn Rhagfyr 2012.  Bydd yn cynnwys theatr gyda 550 o seddi, yn ogystal a chyfleusterau i helpu busnesau lleol, caffis, bwytai, ystafelloedd dysgu i'r Brifysgol a pharciau.

Mae'r trefnwyr yn dweud y bydd yn dod a 900 o swyddi i'r ddinas.

Mae Llywodraeth y Cynulliad a'r Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu £27.5m i'r cynllun.

Yr Athro Fergus Lowe, Is-Gangellor Dros Dro, sy’n arwain y prosiect:

“Rydym yn ceisio adeiladu pontydd – er mwyn dwyn y Brifysgol a’r gymuned ehangach ynghyd, gan ddefnyddio’r celfyddydau, y gwyddorau a chyfuniadau newydd cyffrous o’r ddwy ddisgyblaeth honno. Mae’r prosiect yn uchelgeisiol ac eiconig, ac rydym yn credu y bydd yn cael effaith anhygoel ar bawb a ddaw i gysylltiad ag ef.

“Dyma’r prosiect a fydd yn rhoi Bangor ar y map a bydd yn helpu i adfywio calon drefol y ddinas. Bydd yn darparu Canolfan o ragoriaeth arloesol ac artistig eithriadol a fydd yn siŵr o ennyn diddordeb pobl Cymru a thu hwnt, yn ogystal â rhoi hwb newydd i dwf economi’r Gogledd".