Cau Heol Tremadog am Dri Mis?

Mae dyfodol pentre' Tremadog yn y fantol os fydd cynlluniau dadleuol i gau'r prif heol yno yn mynd yn eu blaen.

Dyna ddadl rai o'r pentrefwyr sy 'di bod yn siarad a Heart.

Fel rhan o waith adeiladu ffordd osgoi Porthmadog mae'r gweithwyr ffordd yn ystyried cau rhan o'r A487 drwy Dremadog am dair mis.

Niweidiol

Yn ol Stuart Hallard sy'n rhedeg Tafarn Y Fleece yn y pentref, fe fyddai cau'r heol yn "cau'r pentref".

"Fe fyddwn ni ar ein pennau ein hunain... mae 'na lwyth o fusnesau yn dibynnu ar bobl yn defnyddio'r heol."

"Bydd cau'r heol yn cael effaith enfawr ar y pentref, y bobl sy'n byw yma a'r oddeutu 100 o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn Nhremadog."

Cynulliad

Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu'r gwaith ar ffordd osgoi Porthmadog. 

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth:

"Mae'r gweithiwr sydd wedi cael cytundeb gan y llywodraeth i ymgymryd a'r gwaith wrthi yn ymgynghori gyda phobl leol a busnesau, yn ogystal a'r gwasanaethau argyfwng, y darparwyr trafnidiaeth a'r cynghorwyr, am y posibilirwydd o gau rhan o'r A487 rhwng Porthmadog a Thremadog." 

"Os fydd cau'r ffordd yn cael ei weld fel y dewis mwya poblogaidd yna fe fyddai'r ffordd yn cael ei gau am 3 mis a byddai ffordd arall ar hyd yr A498 yn cael ei ddefnyddio.  Fe fyddai'r cau yn digwydd, pe cytunir, rhwng Medi a Rhagfyr er mwyn osgoi tymor y twristiaid".
 
Opsiwn arall

Yn ol Stuart Hallard o'r Fleece, opsiwn arall fyddai codi goleuadau traffig dros dro.

Mae yntau'n credu bydd cau'r ffordd yn cael effaith andwyol ar ei fusnes.  Mae 33% o'i elw o stafelloedd gwesty yn deillio o bobl yn pasio ac nid ar archebiadau o flaen llaw.

Mae'r gwaith ymgynghori'n parhau.