Cau Ward Iechyd Meddwl ym Mhwllheli

Mae Ysbyty Brynberyl ym Mwllheli wedi cau ei ward Hafan dros dro.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Ysbyty:

"Mae Ward Hafan yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli yn Ward Iechyd Meddwl 6 gwely i Bobl Hyn. Mae’r ward wedi ei chau dros dro oherwydd bod y Bwrdd Iechyd wedi methu recriwtio staff meddygol digon profiadol i sicrhau diogelwch cleifion y ward."

"Ers i’r ward gau mae’r Bwrdd hefyd wedi colli dwy nyrs gymwysedig o’r ward ac mae hyn wedi ychwanegu at ein problemau staffio. Ein blaenoriaeth gyntaf ydy diogelwch cleifion, ac felly rydym yn asesu sut y gallwn ddarparu lefel ddiogel o wasanaeth meddygol a nyrsio i’r ward.  Mae hyn yn hanfodol cyn y gellir ailagor y ward."