Chwech yn sefyll yn is-etholiad yr Ynys

Wedi i Ieuan Wyn Jones rhoi'r gora iddi yn y Cynulliad, mae rhestr yr ymgeiswyr ar gyfer sedd Ynys Mon wedi ei gyhoeddi.

Fe fydd is-etholiad yn cael ei gynnal ar Awst y Cyntaf oherwydd fod yr Aelod dros yr Ynys wedi gadael ar gyfer swydd rheoli gyda Parc Gwyddoniaeth Menai.

Dyma rhestr lawn o'r ymgeiswyr:

Rhun Ap Iorweth (Plaid Cymru)

Stephen William Churchman (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Neil Fairlamb (Plaid Geidwadol Cymru)

Nathan Gill (UKIP Cymru)

Katharine Jones (Plaid Lafur Sosialaidd)

Tal Michael (Llafur Cymru)