Chwilio'r Fenai am Fachgen 19 Oed

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio unwaith eto am unrhyw wybodaeth ar ol i ddyn 19 oed ddiflannu o ardal Porthaethwy yn oriau man bore Mawrth.

Cafodd Joe Hughes 19 ei weld am y tro diwethaf am 12.30yb Ddydd Mawrth, 28 Rhagfyr ger Garej Shell, Porthaethwy.

Fe gysylltodd aelod o'r cyhoedd oedd yn byw ger glannau'r Fenai a'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi clywed swn gweiddi o'r dwr oddeutu 3.00yb. 

Bu gwylwyr y glannau, timau achub a'r heddlu yn chwilio amdano drwy'r dydd ar hyd y Fenai.  Mae'r heddlu yn dweud y byddan nhw yn parhau i chwilio. 

Pryder Ffrindiau ar Facebook

Hyd yma, mae bron i 10,000 o bobl wedi ymuno a grwp Facebook i geisio dod o hyd i Joe Hughes.  Ar dudalen y grwp mae rhai o ffrindiau'r gwr ifanc yn mynegi eu pryder amdano. 

Disgrifiad

Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn tenau, croenwyn gyda gwallt tywyll.  Roedd yn gwisgo crys du a gwyn a throwsus llwyd.

Mae gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.