Clwb Dynes Caiac yn Codi Arian i'r RNLI

Bydd clwb canwio gwraig o'r Amwythig fu farw oddi ar arfordir Pen-Llyn yn casglu arian i'r RNLI er cof amdani.

Gafwyd hyd i gorff Elizabeth Ashbee - 53 - oddi ar yr arfordir ger Morfa Nefyn fis diwethaf.  Roedd hi ar daith kayak gyda Chlwb Canwio'r Amwythig - cafodd ei gwahanu o'i chyd-gaiacwyr yn ystod amodau anodd ar y dwr.

Bu RNLI Caergybi, 2 hofrenydd yr RAF, hofrenydd yr heddlu a chriwiau gwylwyr y glannau Aberdaron, Porth Dinllaen a Llandwrog yn chwilio'n ddyfal amdani am 3 diwrnod.

Angladd

Mae Ms Ashbee yn cael ei rhoi i'w gorffwys heddiw gydag angladd yn Amlosgfa Emstrey yn yr Amwythig.

Mae ei theulu wedi creu safle gwe i godi arian i'r elusen Amnest Rhyngwladol.  Ar y safle mae ei theulu'n dweud y bydd ei chlwb canwio hi yn codi arian i'r RNLI er cof amdani.

Ar wefan Shrewsbury Canoe Club mae'r aelodau wedi talu teyrnged i Ms Ashbee fel "cymeriad go iawn".  Maent hefyd yn diolch i'r gwasanaeth achub am eu hymdrech a'u hymroddiad.