Cwest yn Ail-Gychwyn i Farwolaeth Ffion
Mae mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg yn dilyn ail gychwyn cwest i farwolaeth y weithwraig gofal 22 oed Ffion Wyn Roberts
Daethpwyd o hyd i gorff Ffion mewn hen gamlas ym Mhorthmadog ar ol iddi fod ar noson allan gyda ei ffrindiau yn Nhremadog gerllaw.
Boddi
Cafodd y rheswm dros ei marwolaeth ei gofnodi gan y crwner Dewi-Pritchard Jones fel boddi a thagu gyda phwythyn - yn ystod y gwrandawiad yn Llangefni.
Mae hyn yn golygu y gall ei theulu dderbyn tystysgrif marwolaeth swyddogol.
Fe ddywedodd y crwner i ddau pathiolegydd o'r Adran Cartref ysgrifennu adroddiadau post-mortem oedd yn debyg iawn i'w gilydd.
Mewn cwest blaenorol doedd hi ddim yn sicr os oedd Ffion wedi boddi yn ychwanegol i gael ei thagu. Ond fe esboniodd Mr Pritchard-Jones i'r ddau bathiolegydd ddyfarnu iddi farw o ganlyniad i'r ddau achos - "cafodd ei thagu ac yna yn fwy na thebyg yn nes ymlaen neu tra ei bod hi'n dal yn fyw - cafodd ei boddi hefyd".
Roedd y tystiolaeth hefyd yn dangos iddi gael ei bwrw ar gefn ei phen gyda gwrthrych caled ac roedd anafiadau eraill yn dangos iddi gael ei thynnu dros arwynebedd caled.
Fe ychwanegodd y crwner bod "maint sylweddol o alcohol yn ei gwaed".
Prawf
Mae dyn lleol yn aros ei brawf dan gyhuddiad o'i llofruddio. Fe ddywedodd Mr Pritchard-Jones y bydd bellach yn aros i weld be fydd canlyniad yr achos.