Cwpwl o Ogledd Cymru yn Dringo Everest

Mae cwpwl o Ogledd Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer taith unwaith mewn bywyd!

Bydd Sarah Hart o Ynys Mon a'i chariad Steve Rogers yn dringo mynydd ucha'r byd - Everest - ym mis Mawrth.

Bwriad y daith yw codi arian i elusen blant Unicef.

Mae Sarah - sy'n gweithio fel Swyddog Prawf yn Sir y Fflint - a Steve wedi bod yn hyfforddi drwy fynd i'w campfa lleol a threulio eu penwythnosau yn dringo yn Eryri.

"Mae'n sialens corfforol a meddyliol enfawr i'r ddau ohonom ni.  Ry'm ni braidd yn nerfus gan nad y'n ni'n gwybod beth i'w ddisgwyl.  Ond ry'm ni'n fwy cyffrous na dim arall!"

Rhoi yn ol i Nepal

Fe benderfynodd Sarah a Steve godi arian i Unicef oherwydd bod yr elusen yn gwneud gwaith gyda phlant sy'n byw ger Mynydd Everest yn Nepal.

Mewn sgwrs a Heart, fe ddywedodd Sarah:

"Ry'm ni eisiau rhoi rhywbeth yn ol i'r ardal.  Nid yw llawer o bobl yn gwybod ond mae mwy na 50,000 o blant yn marw yna bob blwyddyn oherwydd diffyg bwyd maethlon.  Ry'm ni'n awyddus i'w helpu nhw."

Hedfan Baner Gogledd Cymru ar Ben y Byd

Er mwyn codi arian - mae Sarah a Steve yn cynnig i fusnesau, ysgolion ac unigolion noddi darnau bach o'r faner y byddan nhw'n eu cario i'r copa.

Os hoffech chi gymryd rhan a chael eich logo chi ar y faner ewch i www.patchexpedition.com.

SAIN:  Sarah Hart yn son am y daith!