Cyfarfod i Glywed Barn am Wylfa B

Mae disgwyl i dyrfa ymgynnull ym Mhorthaethwy heno i glywed canlyniadau arolwg barn annibynnol am gynlluniau i godi ail-atomfa niwclear ar Ynys Mon.

Cafodd Arolwg Ynni Ynys Mon ei gomisiynu gan yr ymgynghorwyr Mana-Cymru Cyf yn dilyn cais gan y grwp ymgyrchu Pobl yn Erbyn Wylfa B.  Prifysgol Bangor fu'n gyfrifiol am wneud y gwaith ymchwil dros yr Haf.

Holwyd sampl o 500 o bobl o Ynys Mon a rhannau cyffiniol o Wynedd.

Pryder

Roedd bron i dri chwarter o'r rhai holwyd yn pryderu y byddai gwastraff ymbelydrol poeth yn cael ei gadw ar wyneb y safle am 160 o flynyddoedd.

Roedd 74% yn dweud y bydden nhw yn hoffi gweld swyddi mewn ynni amgen neu adnewyddol yn hytrach na swyddi mewn ynni niwclear. 

Fe nododd ymatebwyr i'r arolwg bod gan y safle ei fanteision, serch hynny. Yn eu mysg - mwy o arian yn yr economi leol, a gwaith i bobl Ynys Môn. Cafodd llygredd, effaith ar iechyd, ac effaith ar iechyd plant eu crybwyll fel anfanteision.

Cyfarfod

Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno i'r cyhoedd mewn cyfarfod yng Ngwesty'r Fictoria, Porthaethwy am 6yh. 

Fe ddywedodd Dylan Morgan, llefarydd ar ran Pobl yn Erbyn Wylfa B:

"Mae'r canlyniadau yma yn dangos bod pobl Mon a rhannau o Wynedd yn dal i fod yn ddrwgdybus iawn o'r diwydiant niwclear.  Mae angen i wleidyddion ddeffro i beth yw gwir deimlad pobl y rhannau yma o Gymru."

Ail Atomfa

Mae cwmni Horizon Nuclear Power wedi derbyn sêl bendith y llywodraeth yn Llundain i wneud cais i godi ail atomfa yn Wylfa.

Mae disgwyl i'r gwaith yn yr atomfa bresennol yno ddod i ben ymhen 2 flynedd.

Mae cyfres o arddangosfeydd wedi bod yn teithio'r ardal dros yr wythnosau diwethaf i gyflwyno'r cynlluniau i'r cyhoedd. Roedd yna gyfle i ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr o gwmni Horizon Nuclear Power yn ystod yr arddangosfeydd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Horizon Nuclear Power bod yna "gefnogaeth aruthrol" gan gymunedau lleol i'r cynlluniau. Yn ôl Leon Flexman o'r cwmni roedd sawl unigolyn yn gofyn "pam na wnewch chi ddechrau'r gwaith yn gynt?".

Mae Horizon Nuclear Power yn dweud eu bod nhw'n croesawi unrhyw drafodaeth ddaw yn sgil eu cais i godi ail atomfa yn Wylfa.