Cynlluniau Dadleuol Gam yn Nes
Mae rhai o Aelodau'r Cynulliad yn an-hapus wedi i'r Cyngor Iechyd Cymuned beidio cyfeirio cynlluniau i symud gofal dwys i fabanod dros y ffin i Gilgwri i Lywodraeth Cymru.
Daw hyn yn rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ad-drefnu gofal iechyd yng Ngogledd Cymru, sy'n cynnwys cau rhai Ysbytai cymuedol, yn cynnwys yr un ym Mlaenau Ffestiniog.
Yn y cyfamser....
Mae Cynghorwyr Sir Conwy wedi cymeradwyo cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rheolaeth o'r Bwrdd Iechyd oherwydd diffyg hyder yn dilyn y cynlluniau.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud wrth Heart eu bod yn awyddus i barhau i gyd-weithio gyda Chyngor Conwy a chyfundrefnau eraill....wrth iddyn nhw wynebu her.