Cyngor i Leihau Terfyn Cyflymder

Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu lleihau'r terfyn cyflymder ar y ffordd rhwng Porthmadog a Morfa Bychan.

Daw'r penderfyniad i ostwng y terfyn o 60myh i 40myh ar ol i ferch 10 mlwydd oed farw ar y ffordd y llynedd.

Ond am flynyddoedd lawer mae cynghorwyr a thrigolion lleol wedi bod yn galw am derfyn is er mwyn gwella diogelwch.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:

"Mae diogelwch defnyddwyr ein ffyrdd o bwysigrwydd uchel iawn i Wasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Strydoedd Cyngor Gwynedd ac rydym ni'n gweithio i sicrhau hyn."

"Bydd y Cyngor yn mynd drwy broses statudol i newid y terfyn cyflymder ar ddarn o'r ffordd rhwng Porthmadog a Morfa Bychan i 40mya."

Llwybr

Fe ychwanegodd y llefarydd:

"Fe fyddwn ni hefyd yn ceisio am arian nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi llwybr ar y cyd i seiclwyr a cherddwyr ar yr heol rhwng Morfa Bychan a Phorth-y-Gest.  Fe fyddwn ni'n parhau i asesu'r sefyllfa yn y dyfodol."